English Cymraeg

Pecyn cymorth i newid agweddau ac ymddygiad yn ymwneud â chosb gorfforol i blant

Pobl Ifanc

Mae SCP!/CAU! yn gweithio i greu amgylchedd cyfreithiol a diwylliannol lle gall plant a phobl ifanc dyfu heb ddioddef cosb gorfforol.

 

Mae plant a phobl ifanc yn gynulleidfa bwysig ar gyfer gwaith ar gosb gorfforol. Medrant ddweud beth yw gwir brofiad plant o gosb gorfforol. Medrant ymgyrchu am gydnabyddiaeth lawn o’u hawliau. Medrant ymchwilio cosb gorfforol mewn cyd-destun ehangach megis hawliau’r plentyn, cam-drin yn y cartref a rhianta

 

Dengys ymchwil a wnaed dros y 15 mlynedd ddiwethaf fod plant a phobl ifanc yn tueddu i fod yn fwy ymwybodol nag oedolion bod:

  • Cosb gorfforol yn groes i’w hawliau dynol
  • Cosb gorfforol yn aneffeithiol wrth newid ymddygiad
  • Cosb gorfforol yn brifo/peri loes
  • Cosb gorfforol yn niweidio’r berthynas rhwng oedolion a phlant
  • Cosb gorfforol yn eu bychanu, yn warthus ac yn embaras

 

Gweler:

 

Plant a phobl ifanc yw rhieni yfory. Bydd gweithio gyda hwy yn awr yn eu hannog i feddwl am y materion hyn cyn iddynt gael plant eu hunain, a bydd yn helpu i newid diwylliant y dyfodol.