English Cymraeg

Pecyn cymorth i newid agweddau ac ymddygiad yn ymwneud â chosb gorfforol i blant

croeso

Croeso i Pecyn Cymorth Help wrth Law – pecyn cymorth i newid agweddau ac ymddygiad tuag at gosb gorfforol i blant.

Mae’r Rhageiriau yn dweud wrthych am y cyd-destun gwleidyddol a diwylliannol ar gyfer cynhyrchu’r pecyn cymorth hwn. Galwant am i blant gael yr un amddiffyniad rhag ymosodiad ag a roddir i oedolion dan y gyfraith. Croesawant y Pecyn Cymorth Help wrth Law fel adnodd i bawb newid agweddau ac ymddygiad tuag at gosb gorfforol i blant, cyn ac ar ôl newid y gyfraith.

Mae’r Cyflwyniad yn dweud beth yw diben y pecyn cymorth a sut mae’n cysylltu ag amcanion ‘Sdim Curo Plant!/Children Are Unbeatable!

Mae Sut i ddefnyddio’r pecyn cymorth yn rhoi gwybodaeth am yr hyn sydd yn y pecyn cymorth, a sut i’w ddefnyddio.

Mae Diolchiadau  yn cydnabod y sefydliadau a’r bobl a gyfrannodd at y pecyn cymorth, ac a’i gwnaeth yn bosibl.

Os ydych eisoes yn defnyddio’r pecyn cymorth, medrwch ddefnyddio’r bar dewislen ar ben y dudalen a mynd i:

cynulleidfaoedd sy’n disgrifio gwahanol gynulleidfaoedd ac yn awgrymu deunyddiau addas ar gyfer pob cynulleidfa i drin materion megis casglu gwybodaeth ar smacio, newid agweddau at smacio, newid agweddau at ddiwygio’r gyfraith, rhianta cadarnhaol a pharchu plant.

adnoddau sef deunyddiau a gynhyrchwyd gan sefydliadau eraill ar bwnc rhoi diwedd ar gosb gorfforol i blant.

gweithgareddau sef deunyddiau a gafodd eu datblygu neu eu haddasu gan SCP! ar bwnc rhoi diwedd ar gosb gorfforol i blant.

dalenni gwybodaeth yn rhoi gwybodaeth, lluniau, diagramau, holiaduron, cartwnau a deunyddiau eraill y medrir eu defnyddio fel taflenni i’w dosbarthu neu wybodaeth ar roi diwedd ar gosb gorfforol i blant.

dolenni yn cysylltu gyda sefydliadau a deunyddiau sy’n berthnasol i roi diwedd ar gosb gorfforol i blant, ond na chafodd eu cynnwys mewn rhannau eraill o’r pecyn cymorth.
 
cysylltu â ni yn rhoi cyfle i gysylltu â ni am y pecyn cymorth neu am waith arall SCP! Rydym yn croesawu’n neilltuol adborth ar y pecyn cymorth, ac unrhyw syniadau eraill a all fod gennych am adnoddau neu ddeunyddiau ychwanegol.