English Cymraeg

Pecyn cymorth i newid agweddau ac ymddygiad yn ymwneud â chosb gorfforol i blant

Gweithwyr proffesiynol a myfyrwyr

Mae bron yr holl brif asiantaethau,sefydliadau a chymdeithasau proffesiynol sy’n gweithio gyda phlant a phobl ifanc yn y Deyrnas Unedig yn cefnogi ymgyrch ‘Sdim Curo Plant!/Children Are Unbeatable!  Mae rhestr fanwl o gefnogwyr ar gael ar wefan ‘Sdim Curo Plant!/ Children Are Unbeatable! Mae SCP!/CAU! wedi cyflwyno hyfforddiant a gwybodaeth i ystod eang o grwpiau ac unigolion. Mae gennym ddata o arolygon ac adroddiadau llafar o’r hyfforddiant hwnnw sy’n awgrymu:

  • Nad yw rhai gweithwyr proffesiynol  bersonol yn gweld dim o’i le gyda smacio ac felly nad oes ganddynt ymrwymiad i gyflwyno neges dim smacio.
  • Mae rhai gweithwyr proffesiynol yn ymroddedig i’r neges dim smacio ond nid ydynt yn teimlo’n hyderus wrth ei chyflwyno i’w cleientiaid neu ddefnyddwyr gwasanaeth.
  • Mae llawer o weithwyr proffesiynol yn ymroddedig i gyflwyno neges dim smacio yn eu gwaith, ond nid ydynt yn deall bod yn rhaid newid y gyfraith.
  • Nad yw cyrsiau ar gyfer myfyrwyr sy’n hyfforddi i weithio gyda phlant, rhieni a theuluoedd ym mha bynnag wedd yn gyffredinol yn edrych ar faterion yn ymwneud â chosb gorfforol.


Canfu SCP!/CAU! hefyd fod y rhan fwyaf o hyfforddiant a gyflwynwyd gennym wedi llwyddo i newid agweddau neu wella hyder a gwybodaeth yn y meysydd hyn.

Bydd y deunyddiau a argymhellir yn yr adran hon yn cefnogi gweithwyr proffesiynol a’r rhai sy’n eu haddysgu wrth ddatblygu sgiliau a gwybodaeth a newid agweddau i gefnogi diwygio’r gyfraith, newid diwylliant ac addysg rhieni mewn disgyblaeth ddi-drais a rhianta cadarnhaol.