English Cymraeg

Pecyn cymorth i newid agweddau ac ymddygiad yn ymwneud â chosb gorfforol i blant

Rhieni a gofalwyr

Trydydd nod SCP!/CAU! yw i rieni gael gwybodaeth a chyngor a chefnogaethymarferol am ddewisiadau heblaw smacio a defnyddio ymagwedd gadarnhaol i fagu plant.

Mae consensws erbyn hyn ymysg y rhai sy’n gweithio gyda phlant, pobl ifanc a theuluoedd ar draws y Deyrnas Unedig mai’r ffordd orau i fagu plant yw cael ymagwedd gadarnhaol. Caiff yr ymagwedd hon ei hadnabod fel arfer fel ‘rhianta cadarnhaol.’

Dywedoddd Margo (2008) y profwyd fod arddulliau rhianta penodol yn neilltuol o bwysig mewn datblygiad cymdeithasol ac emosiynol cadarnhaol. Mae’r rhain yn cynnwys:

  • Cysondeb o ran rheolau ac arddull
  • Cynhesrwydd a diddordeb
  • Sefydlogrwydd a sicrwydd
  • Awdurdod heb ddrwgdeimlad

(Margo J (2008) Make Me a Criminal; Preventing Youth Crime. Llundain: Institute for Public Policy Research. Dyfynnu Stanley K (gol) (2005) Daddy Dearest? Active fatherhood and public policy. Llundain: Institute for Public Policy Research a Waldfogel J (2006) What Children Need. Public Policy Research, 13:1.)

Mae llawer o ddeunyddiau, cefnogaeth a gwybodaeth ar gael heddiw mewn amrywiaeth o fformatau. Medrwch ganfod mwy amdanynt drwy edrych yn yr adran ‘Rhianta Cadarnhaol’ yn yr adran dolenni ar y wefan.

Mae’r adran Pecyn Cymorth Help wrth Law ar gyfer rhieni yn rhoi syniadau ar gyfer gweithio gyda rhieni a gofalwyr yn benodol ar bwnc cosb gorfforol. Cynhwysir peth deunydd rhianta cadarnhaol mewn llawer o’r adnoddau a’r gweithgareddau a restrir yma, ond dim ond deunyddiau sy’n neilltuol o berthnasol i gosb gorfforol a gynhwysir.