English Cymraeg

Pecyn cymorth i newid agweddau ac ymddygiad yn ymwneud â chosb gorfforol i blant

cynulleidfaoedd

Mae rhoi terfyn ar gosb gorfforol i blant yn fusnes i bawb. Mae’r adran hon yn edrych ar wahanol gynulleidfaoedd ar gyfer y pwnc, sut i’w hannog i feddwl am y materion a’r hyn y gall pawb ei wneud i roi terfyn ar gosb gorfforol i blant. Dewiswch y gynulleidfa y dymunwch weithio gyda hi, yna edrych drwy’r awgrymiadau am y math o waith y medrwch ei wneud a pha ddeunyddiau sydd ar gael i wneud hynny.

 

Mae’r cynulleidfaoedd a ystyrir fel sy’n dilyn:

 

Meysydd neilltuol o ddiddordeb yw:

  • Casglu gwybodaeth ac agweddau am gosb gorfforol
  • Pam nad yw cosb gorfforol yn iawn
  • Pam fod angen newid y gyfraith a chymryd rhan mewn ymgyrchu
  • Rhianta cadarnhaol
  • Creu diwylliant ac amgylchedd sy’n parchu plant a phobl ifanc ac sy’n atal cosb gorfforol

 

Medrwch wedyn ddefnyddio’r wefan i ganfod y deunyddiau a argymhellwyd. Rydym wedi grwpio’r deunyddiau yn ddau fath. Adnoddau yw deunyddiau a ddatblygwyd gan grwpiau arall. Mae adolygiadau o bob adnodd ar y wefan gyda gwybodaeth ar ble i’w cael. Mae rhai ohonynt ar gael yn rhad ac am ddim, yn aml fel ffeiliau PDF y medrir eu lawrlwytho o’r Rhyngrwyd. Mae eraill ar werth. Gweithgareddau yw deunyddiau a ddatblygwyd gan ‘Sdim Curo Plant!/Children Are Unbeatable! yng Nghymru.